#

 

 

 

 


Crynodeb o'r dystiolaeth a gafwyd gan ymgyrch y Coleg Nyrsio Brenhinol

1.       Cefndir

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cynnal ymgyrch i gefnogi Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru). O ganlyniad, mae'r Pwyllgor wedi cael negeseuon e-bost a chardiau post gan nyrsys a chleifion.

Cyflwynwyd cyfanswm o 315 o ymatebion i'r Pwyllgor: 283 dros yr e-bost a 32 o gardiau post ar ffurf copi caled. Dywedodd pawb a gyflwynodd gopïau caled eu bod yn aelodau o'r Coleg Nyrsio Brenhinol. Mae'r canlynol yn ddadansoddiad bras fesul categori o ymatebwyr:

§    75 y cant gan nyrsys;

§    10 y cant gan gleifion;

§    8 y cant gan staff meddygol eraill (gweithwyr cymorth gofal iechyd; meddygon, fferyllwyr, ac ymgynghorydd);

§    3 y cant gan staff eraill (staff gweinyddol; diogelwch; staff domestig; cynnal a chadw);

§    4 y cant yn anhysbys.

Rhoddir crynodeb o'r ymatebion mewn dwy ran isod: crynodeb o farn y staff a chrynodeb o farn cleifion.

Derbyniwyd 44 o gardiau post eraill ar ffurf copi caled yn cefnogi'r Bil ar ôl i'r nodyn hwn gael ei baratoi. Nid oedd yn bosibl dadansoddi'r sylwadau a ddaeth i law, fodd bynnag roedd 37 ohonynt gan nyrsys, 7 gan gleifion, ac 1 gan weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd.

2.       Barn y staff

Roedd y mwyafrif llethol o'r ymatebion yn rhai gan nyrsys. Dywedodd nifer o'r ymatebwyr eu bod wedi gweithio yn y proffesiwn am flynyddoedd lawer mewn ystod o leoliadau gwahanol. Roedd un ymatebydd yn gyn nyrs weithredol o un o Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru. Nododd rhai ymatebwyr y lleoliadau penodol yr oeddent wedi gweithio ynddynt ac roedd y rhain yn cynnwys: wardiau acíwt, wardiau cymunedol; wardiau'r henoed; wardiau newydd-anedig; cartref nyrsio i bobl anabl; gofal dwys; ac iechyd meddwl. Dywedodd rhai ymatebwyr eu bod yn nyrsys asiantaeth. Dywedodd un gweithiwr asiantaeth ei bod wedi gweithio mewn deg o ysbytai gwahanol mewn pedair ardal Bwrdd Iechyd wahanol, a bod staff asiantaeth yn cael cynnig mwy o waith nag y gallent ymdopi ag ef o ganlyniad i'r ffaith bod nyrsys yn gadael y proffesiwn neu eu bod yn sâl oherwydd pwysau'r swydd.

2.1        Y themâu allweddol

Y neges allweddol gref gan staff a ymatebodd yw bod prinder staff ar hyn o bryd a bod hyn yn cael effaith sylweddol ar ofal a diogelwch cleifion. Cyfeiriodd llawer o'r ymatebwyr hefyd at lefelau staff nyrsio sy'n arwain at lefelau uchel o straen, absenoldeb oherwydd salwch a morâl isel ymhlith y gweithlu nyrsio. Ceir rhagor o fanylion isod.

2.2        Gofal cleifion

Prif thema'r cardiau post a'r negeseuon e-bost oedd bod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu o ganlyniad i lefelau staff nyrsio presennol. Awgrymwyd bod prinder staff a bod y sefyllfa hon yn gwaethygu. Dywedodd rhai ymatebwyr bod angen mwy o amser nyrsys o ganlyniad i gymhlethdod cynyddol mewn anghenion gofal cleifion sy'n mynd law yn llaw â phoblogaeth sy'n heneiddio. Awgrymodd nifer o'r ymatebwyr fod lefelau staff nyrsio yn cael effaith sylweddol ar ansawdd y gofal a ddarperir ac nad oes gan nyrsys ddigon o amser i'w dreulio gyda chleifion. Yn ei dro, awgrymwyd bod hyn yn golygu na all nyrsys ddarparu gofal personol ac urddasol. Rhoddodd rhai ymatebwyr enghreifftiau o staff iau a dibrofiad iawn yn gyfrifol am wardiau. Awgrymwyd bod lefelau staffio yn golygu bod nyrsys yn gorfod 'torri corneli'. Rhoddwyd enghreifftiau lle na chafwyd digon o amser i fwydo cleifion yn gywir cyn i'w bwyd gael ei gludo ymaith a hefyd lle nad oedd cleifion yn cael eu hymolchi'n iawn.

Awgrymodd llawer o ymatebwyr hefyd fod lefelau staff nyrsio yn golygu bod camgymeriadau yn fwy tebygol o gael eu gwneud, sy'n rhoi cleifion mewn perygl, gan gynnwys yr awgrym y gallai hyn arwain at farwolaeth. Cyfeiriodd fferyllydd at y ffaith bod lefelau staff nyrsio yn cynyddu'r risg o gamgymeriadau wrth weinyddu meddyginiaeth. Awgrymodd un ymatebydd y byddai cael mwy o nyrsys yn lleihau amseroedd aros. Awgrymodd meddyg fod prinder nyrsys yn cael effaith negyddol ar lif cleifion drwy'r theatr.

2.3        Yr effaith ar y staff

Nodwyd mai prif effaith y lefelau staff nyrsio presennol ar y nyrsys eu hunain oedd risg i ddiogelwch nyrsys; lefelau uchel o straen; mwy o absenoldeb oherwydd salwch; a morâl isel ymysg y staff. Awgrymwyd bod y lefelau staffio presennol yn cynyddu'r risg o ymosodiadau ar staff. Awgrymodd yr ymatebwyr fod yn rhaid i nyrsys weithio shifftiau ychwanegol oherwydd absenoldeb salwch eu cydweithwyr. Awgrymwyd hefyd bod nyrsys yn 'llosgi'r gannwyll y ddau ben' ac nad ydynt yn cael seibiannau digonol i fwyta neu i fynd i'r toiled. Dywedwyd bod lefelau uchel o waith papur hefyd yn broblem. Dywedodd un ymatebydd ei fod wedi ymddeol yn gynnar oherwydd y pwysau a chyfeiriodd ymatebwyr eraill at gydweithwyr a oedd yn ystyried gwneud hynny. Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at y trosiant uchel o nyrsys; nyrsys yn gadael y proffesiwn; a phrinder nyrsys sy'n cael eu recriwtio. Dywedwyd bod y lefelau staffio presennol yn golygu bod y proffesiynau yn anneniadol gan dynnu sylw at y defnydd o nyrsys asiantaeth i 'lenwi'r bwlch'. Mynegodd nifer fach o ymatebwyr bryderon bod y lefelau staff nyrsio presennol yn golygu bod nyrsys yn fwy tebygol o gael eu cyfeirio at y Cyngor Bydwreigiaeth a Nyrsio.

2.4        Y lleoliadau y dylai'r Bil fod yn berthnasol iddynt

Gwnaed nifer o sylwadau am fanteision tybiedig isafswm cymarebau staff nyrsio yn cael eu cymhwyso i leoliadau ac eithrio wardiau cleifion mewnol i oedolion mewn ysbytai aciwt. Roedd y rhain yn cynnwys lleoliadau cymunedol (sydd wedi'u cynnwys o fewn cwmpas y Bil ar hyn o bryd) a chartrefi nyrsio a'r sector preifat (nad ydynt wedi'u cynnwys o fewn cwmpas y Bil ar hyn o bryd). Awgrymwyd bod y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn cael eu gofal yn y sector gofal preifat. 

2.5        Costau

Awgrymodd rhai ymatebwyr y byddai'r Bil yn arwain at ostyngiad yn y costau sy'n gysylltiedig ag ymgyfreitha yn ogystal â'r costau sy'n gysylltiedig ag absenoldeb oherwydd salwch. Awgrymwyd hefyd y byddai'n arwain at ostyngiad yn y defnydd o staff asiantaeth. Awgrymwyd er efallai y gall fod mwy o gostau staffio pan gaiff y Bil ei gyflwyno, yn y tymor hwy, byddai'r Bil yn gost-effeithiol.

2.6        Rheolwyr

Awgrymodd rhai ymatebwyr nad oedd eu rheolwyr wedi ymateb yn gadarnhaol pan godwyd pryderon am lefelau staff nyrsio gyda nhw. Dywedodd un ymatebydd ei fod wedi codi pryderon gyda'i dîm rheoli ar sawl achlysur ac mai'r ateb a gafodd oedd 'dyma fel y mae pethau', ac awgrymwyd ei fod yn cael dylanwad negyddol ar y tîm. Awgrymodd ymatebydd arall fod staff nyrsio yn cael eu rheoli gan ofn a bygythiadau cyson. Awgrymodd un nyrs fod rheolwyr yn rhoi blaenoriaeth i amseroedd aros yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac mai'r rheswm am hyn oedd bod mwy o graffu ar y data.

3.       Barn cleifion

Dywedodd yr ymatebwyr eu bod yn cefnogi'r Bil oherwydd pryderon bod prinder nyrsys ar wardiau yn cael effaith negyddol ar ofal cleifion a lles nyrsys. Cafwyd sylwadau'n dweud y byddai mwy o nyrsys yn arwain at ostyngiad yn nifer y damweiniau ac mewn cyfraddau marwolaeth. Awgrymodd un ymatebydd fod y lefelau staffio presennol yn beryglus. Soniodd nifer o ymatebwyr am ansawdd gofal cleifion gan bwysleisio rôl nyrsys yn hynny o beth. Amlygwyd materion penodol mewn perthynas â gofal cleifion gan gynnwys: rhoi meddyginiaeth; amseroedd bwyd; ac asesu anghenion cleifion. Roedd y sylwadau gan gleifion o ran effaith y lefelau staff nyrsio yn cynnwys y canlynol: mae eu rôl yn bwysig iawn; mae eu llwyth gwaith yn rhy uchel; nid ydynt yn gorffen eu shifftiau ar amser; maent yn gwneud gwaith gwych dros oriau hir; maent yn gorweithio am gyflog sy'n rhy isel; ac roedd nyrsys yn rhedeg o gwmpas heb gael seibiant. Roedd canfyddiad ymysg nifer o gleifion bod gormod o waith papur i nyrsys ei gwblhau. Awgrymodd un ymatebydd y byddai'r Bil yn arwain at lai o atgyfeiriadau i'r Cyngor Bydwreigiaeth a Nyrsio.